Cymrodoriaethau PhD

GALWCH AR GAU

Cymrodoriaethau PhD 2021/2022
Mae gan RCBC Cymru (Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil) 1 Gymrodoriaeth PhD i’w gynnig i gychwyn yn mis Ebrill 2022 

Bydd RCBC Cymru yn cyllido’r Gymrodoriaeth PhD yn llawn amser am dair blynedd. Caiff y Gymrodoriaeth PhD ei lletya ym Mhrifysgol De Cymru neu ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Mae’r Gymrodoriaeth yn cynnwys cyflog (hyd at uchafswm o £48,726 dros dair blynedd), cyfraniadau at ffioedd prifysgol (hyd at gyfanswm o £14,047 dros y tair blynedd ) a chostau ymchwil (hyd at uchafswm o £2,500*), a £1,062 ar gyfer presenoldeb yn ystod dyddiau astudio Cymuned yr Ysgolorion (gweler pdf Gwybodaeth Bellach). 

*NI DDISGWYLIR COSTAU PROSIECTAU SYDD HEB FOD MEWN LABORDY I FOD YN FWY NA £2000.

Dim ond yn ôl disgresiwn y brifysgol sy’n lletya y caiff ceisiadau ar gyfer astudiaeth ran amser eu hystyried (ddim llai na 3 diwrnod yr wythnos).


Y Broses o Wneud Cais 
1. Cysylltu â’r Arweinydd Gweithredol yn eich dewis cyntaf o Brifysgol (Prifysgol De Cymru neu Brifysgol Glyndŵr Wrecsam) i drafod eich darpar gais ac enwi goruchwylydd.
2. Rhaid cwblhau ffurflenni gwirio cymhwystra a’u dychwelyd at marina.mcdonald@southwales.ac.uk unrhyw adeg hyd at 26 TACHWEDD 2021. Hysbysir ymgeiswyr o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn y ffurflen wirio a ydyn nhw’n diwallu gofynion meini prawf cymhwystra.
3. Er mwyn cynorthwyo i fireinio eu syniadau, gwahoddir ymgeiswyr i gymryd rhan mewn gweminar gydag arbenigwyr ym maes cynllunio ymchwil, dulliau ansoddol a meintiol, ymglymiad cleifion, moeseg a pholisi iechyd a gwella gwasanaeth. Byddan nhw hefyd yn ystyried manteisio i’r eithaf ar effaith a rheoli eu prosiect. Dyddiad cynnal y weminar fydd 30 TACHWEDD 2021.
4. Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gyflwyno ffurflen gais y cynnig llawn erbyn 7 IONAWR 2022 i marina.mcdonald@southwales.ac.uk. Bydd ceisiadau llawn yn cael eu hadolygu’n llawn a gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad.
5. Rhagwelir mai’r wythnos yn cychwyn 7 CHWEFROR 2022 y bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal. Bydd y cymrodoriaethau yn cychwyn yn EBRILL 2022.

Meini Prawf Cymhwystra 
• Rhaid y ymgeiswyr fod yn gofrestredig yn y DU fel Nyrs, Bydwraig, Fferyllydd neu Weithiwr Proffesiynol Iechyd Cysylltiol (h.y. rhaid eu bod wedi’u cofrestru gyda’r the NMC, HCPC neu GPhC ar gychwyn eu hastudiaeth). Daw’r diffiniad o Broffesiynau Iechyd Cysylltiol allan o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Gofal a Iechyd (gweler: https://www.hcpc-uk.org/about-us/who-we-regulate/the-professions/). Gallai gwyddonwyr biofeddygol a chlinigol fod wedi’u cofrestru gyda’r HCPC neu wedi’u cofrestru drwy drefniadau rheoleiddiol gwirfoddol cydnabyddedig drwy Academi Gwyddorau Gofal Iechyd. Dydy’r rhai sydd wedi’u cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru ddim yn gymwys i wneud cais o dan y cynllun hwn.
• Mae gofyn i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf (o ddewis gradd 2.1 neu uwch) o Brifysgol neu Sefydliad a gydnabyddir gan y 6 Sefydliad Addysg Uwch sy’n rhan o RCBCCymru.
• Rhaid bod ymgeiswyr llwyddiannus breswylio yn ystod cyfnod y dyfarniad neu fod yn gyflogedig o fewn GIG Cymru / Sefydliad Addysg Uwch Cymru.
Ceisiadau 
Cofiwch ganiatáu digon o amser i dderbyn datganiad gan eich darpar oruchwylydd (dewis cyntaf) a chadarnhad bod gennych gefnogaeth y sefydliad addysg uwch sy’n lletya (SAU). Er bod chwe SAU yn rhan o'r cydweithrediad hwn, y tro hwn penodir y PhD ym Mhrifysgol De Cymru neu ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Gweler y ddogfen pdf 'Gwybodaeth Bellach' i gael manylion cyswllt RCBCCymru yn y prifysgolion sy’n cymryd rhan.
 
Delir ag ymholiadau cyffredinol gan Marina McDonald, RCBCCymru, Prifysgol De Cymru. E-bost: marina.mcdonald@southwales.ac.uk 
 
Sylwer bod Cymrodoriaethau RCBCCymru yn cael eu cynnig ar sail y gallai’r ffioedd newid ac yn amodol ar y drefn gymorth berthnasol i fyfyrwyr yng Nghymru.



Rhestr Wirio Cymhwystra PhD 

Ffeil Lawriwytho: Rhestr Wirio Cymhwystra PhD
Dyddiad can ar gyfer cyflwyno: 19 TACHWEDD 2021

Ffurflen Gais Cynnig Llawn RCBCCymru

Ffeil Lawriwytho: Ffurflen Gais Cynnig Llawn RCBCCymru
Dyddiad can ar gyfer cyflwyno: 7 IONAWR 2022

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Share by: