Cymuned yr Ysgolorioin (CoS)

 Cymuned yr Ysgolorion

Ffurfiwyd Cymuned Ysgolorion RCBC fis Medi 2006 i hwyluso’r rhyngweithio a’r cydweithredu rhwng Cymrodyr PhD a Chymrodyr Ôl-Ddoethurol, eu goruchwylwyr a’u mentoriaid a siaradwyr gwadd. Mae’n cwrdd yn gyson at ddibenion rhwydweithio, hyfforddiant, cyfnewid syniadau ymchwil a thrafodaeth.  

Mae gofyn i bawb sy’n derbyn arian RCBC gymryd rhan yng Nghymuned yr Ysgolorion sy’n nodwedd allweddol y cydweithredu. 

 Y nod ydy darparu mecanwaith cefnogol sy’n:

· Rhannu capasiti deallusol academyddion a gweithwyr proffesiynol maes nyrsio a iechyd perthynol yng Nghymru er budd y cymrodyr ymchwil.

· Cynnig amgylchedd cefnogol lle gall cymrodyr ac academyddion gwrdd yn rheolaidd i drafod materion a rhannu syniadau, yn enwedig ar faterion methodoleg.

· Cynnig dull i gynnal ysgogiad a chynnydd cymrodyr a hynny’n arwain at gwblhau’r gwaith ar amser.

· Cyflymu datblygiad arbenigedd methodolegol ac arweinyddiaeth cymrodyr fel modd o roi darpar arweinwyr ar “lwybr cyflym”.

· Cynnig mecanwaith ar gyfer mentora a chyfarwyddyd gyrfaol.

Dydy’r hyfforddiant ddim am orgyffwrdd ag unrhyw brosesau sydd eisoes yn bodoli yn y prifysgolion unigol. Ond yn hytrach, cynnal seminarau ar ddulliau a dosbarthiadau meistr sydd yn rhai blaengar. Nod arweinyddiaeth ymchwil hefyd ydy darparu seminarau a dysgu drwy brofiad ar faterion efallai sydd ddim yn cael sylw yn y brifysgol sy’n lletya'r gwaith.


Hwylusydd Academaidd Cymuned yr Ysgolorion 

Dr Roiyah Saltus
Prif Gymrawd Ymchwil, Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg, Prifysgol De Cymru  
 
Dechreuodd Dr Roiyah Saltus yn ei rôl fel Hwylusydd Cymuned yr Ysgolorion (CoS) ar y 1af o fis Medi 2018. Mae maes addysgu, ymchwil a gwaith ysgolheigaidd Roiyah yn plethu cymdeithaseg, iechyd cyhoeddus a pholisi cymdeithasol critigol. Ei ffocws creiddiol ydy mapio a mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol a gwleidyddol iechyd a llesiant a’u heffaith anghyfartal ar iechyd a llesiant grwpiau a chymunedau’r boblogaeth gyda ffocws ar ymfudiad, ethnigrwydd a heneiddio. Mae ei gwaith yn cynnwys gwneud arolwg o arferion a safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau a chynnal archwiliadau ansoddol o brofiadau beunyddiol pobl er mwyn dod o hyd i ddulliau o wella’r ddarpariaeth o fewn cyd-destun systemau gofal integredig cymhleth.  Fel gweithredydd ymchwil, mae ei ffocws bob amser yn allblyg, gan dalu sylw i ddeialog, cyfnewid gwybodaeth a gweithio gydag eraill i ddod o hyd i atebion, meithrin ymyriadau ac, yn y pen draw, i effeithio’n bositif ar fywydau pobl. 
 
Gellir cysylltu â Roiyah ar e-bost roiyah.saltus@southwales.ac.uk a thrwy ffonio 01443 483894.

Share by: