Gwybodaeth am RCBCCymru

Gwybodaeth am RCBCCymru

Crëwyd RCBC (Cynyddu Gwaith Ymchwil Cymru)  (http://www.rcbcwales.org.uk/) yn 2005 i gynyddu capasiti ymchwil a galluedd grwpiau nyrsio a gweithwyr proffesiynol maes iechyd perthynol ac i gyfrannu at ddatblygu rolau academaidd clinigol. Yn 2014, ehangwyd ei sgôp i gynnwys fferyllwyr

Mae’r cydweithrediad yn cynnwys adrannau nyrsio a iechyd perthynol chwe phrifysgol yng Nghymru sy’n cydweithredu i gynnig is-adeiledd a chymorth a rennir ar gyfer cymrodoriaethau ymchwil ar draws y maes ymchwil, o gyfleoedd ‘Newydd I Ymchwil’ / ‘First Into Research’, graddau Meistr, astudiaethau doethurol ac ôl-ddoethurol hyd at gymrodoriaeth ymchwil uwch-yrfa iechyd. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Darparwyd cyllid ychwanegol gan Ofal Canser Tenovus a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae RCBC yn cynnig cyfle i weithwyr proffesiynol iechyd cofrestredig ym maes nyrsio, bydwreigiaeth, fferylliaeth, gwyddoniaeth glinigol a’r proffesiynau iechyd perthynol i sicrhau cymrodoriaethau er mwyn datblygu eu hyder, eu sgiliau a’u harbenigedd wrth wneud ymchwil. Mae’r cynlluniau cymrodoriaeth ymchwil hefyd yn atgyfnerthu isadeiledd Ymchwil a Datblygiad (R&D) drwy gynyddu ansawdd a maint yr ymchwil ym maes gofal iechyd yng Nghymru. 


Mae pob aelod o gynllun RCBC yn ymuno â Chymuned yr Ysgolorion. Mecanwaith allweddol ydy hwn y mae RCBC Cymru wedi’i fabwysiadu i hyrwyddo amgylchedd colegol i feithrin ymchwilwyr. Mae Cymuned yr Ysgolorion yn ychwanegu gwerth i’r cymrodoriaethau drwy ddarparu mentora a dosbarthiadau meistr mewn dulliau ymchwil ac arweinyddiaeth ymchwil, yn cynnwys gweithio’n agos â pholisi a dylanwadu arno. Mae’n cwrdd chwe gwaith y flwyddyn, gan gynnwys dau ddiwrnod preswyl.

Ers i’r cynllun gychwyn, dyfarnwyd 102 o gymrodoriaethau RCBC. Mae’r cymrodoriaethau a ariennir ar agor i weithwyr proffesiynol heb fod o faes meddygol/iechyd deintyddol sy’n preswylio yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal er mwyn ymuno ag un o’r adrannau sy’n cydweithredu. Gweinyddir y cynllun gan Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg ym Mhrifysgol De Cymru.


Partneriaid a Chydweithwyr

Public Involvement 

Mae Rcbccymru wedi ymrwymo i godi proffil cyfranogiad ac ymgysylltiad y cyhoedd o fewn cynllun Rcbccymru. Rydym yn ceisio sicrhau bod cyfranogiad yn rhan annatod o'r gwaith o reoli'r cynllun a chyda Chymrodyr Rcbccymru eu hunain. Ym mis Awst 2016, roedd Rcbccymru yn falch o groesawu aelod o'r rhwydwaith cynnwys pobl i'n grŵp gweithredol ac rydym wedi cynhyrchu datganiad o fwriad (isod) sy'n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer gweithredu mewn perthynas â chynnwys ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Datganiad o fwriad PPI RCBCCymru
Share by: