Cymrodoriaethau Newydd i Ymchwil

GALWAD AR GAU


 Cymrodoriaethau Newydd i Ymchwil 2024
Mae RCBC Cymru yn cael galwad agored am Gymrodoriaethau Ymchwil Cyntaf i Ymchwil (FiR) a hyd at 2 Gymrodoriaeth FiR ar gyfer Fferylliaeth, i ddechrau ar 1 Ebrill 2024

Mae gan RCBC Cymru (Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil) Chymrodoriaeth 'Newydd i Ymchwil' (FiR) i’w cynnig i gychwyn ar y 1 EBRILL 2024. 

 

Mae Cymrodoriaeth yn agored i bawb ac ar gael i i bob proffesiwn cymwys yn RBCBCymru. Rhaid i'r ymgeiswyr fod yn gofrestredig yn y DU fel Nyrs, Bydwraig, Fferyllydd neu Weithiwr Proffesiynol Iechyd Cysylltiol (h.y. rhaid eu bod wedi’u cofrestru gyda’r the NMC, HCPC neu GPhC ar gychwyn eu hastudiaeth). Daw’r diffiniad o Broffesiynau Iechyd Cysylltiol o Gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd (gweler: https://www.hcpc-uk.org/about-us/who-we-regulate/the-professions/). Gallai gwyddonwyr biofeddygol a chlinigol fod wedi’u cofrestru gyda’r HCPC neu wedi’u cofrestru drwy drefniadau rheoleiddiol gwirfoddol cydnabyddedig drwy Academi Gwyddorau Gofal Iechyd.  Sylwer nad oes gan RCBCCymru y cyllid i ystyried gweithwyr proffesiynol tu allan i’r grwpiau gweithwyr proffesiynol gofal iechyd hyn.


Mae’n bleser gan RCBC (Cydweithrediad Cynyddu Gwaith Ymchwil) Cymru (http://www.rcbcwales.org.uk) gyhoeddi bod cyllid ar gael ar gyfer Cymrodoriaethau 'Newydd i Ymchwil' mewn Fferylliaeth wedi eu hariannu gan 'Pharmacy Research UK' ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (Fferylliaeth) i gychwyn ar EBRILL 1af 2024.  


Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gofrestredig yn y DU fel Fferyllydd (a rhaid eu bod wedi cofrestru gyda’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol - GPhC - ar gychwyn yr astudiaeth).

 

Mae Cymrodoriaethau Newydd i Ymchwil (FiR) ar gyfer astudiaeth ran-amser am 12 mis ar sail un diwrnod yr wythnos. Bydd pob dyfarniad werth £12,468.54. O'r swm hwn, bydd £7,577.03 yn daladwy i’r sefydliad sy’n cyflogi fel cyfraniad at ryddhau cymrodyr am ddiwrnod yr wythnos, £3,974.69 tuag at gostau goruchwyliaeth a hyfforddiant yn y Sefydliad Addysg Uwch sy’n lletya, hyd at £541.22 tuag at gostau ymchwil a hyd at £375.60 ar gyfer costau teithio i fynychu dyddiau astudio Cymuned yr Ysgolorion (gweler y ddogfen pdf 'Gwybodaeth Bellach')

 

Cyfraniad ydy’r cyllid sydd ar gael i gyflogwyr tuag at ryddhau Cymrodyr am y diwrnod (1 diwrnod yr wythnos am 12 mis ynghyd â dyddiau astudio Cymuned yr Ysgolorion) ac fe’ch cynghorir i drafod unrhyw wahaniaeth rhwng eich cyflog a chyllid RBCBCymru a ddosrennir i gyflogwyr gyda’ch cyflogwr. 

 

Hysbysir ymgeiswyr sydd, ar hyn o bryd yn gweithio rhan amser na all RCBCCymru dalu Cymrodyr Newydd i Ymchwil (FIR) yn uniongyrchol ac y dylen nhw drafod opsiynau tâl gyda’u cyflogwr am y cynnydd yn eu horiau allai fod o ganlyniad i dderbyn Cymrodoriaeth.

 

Y Broses o Wneud Cais Dedlein/Dyddiadau allweddol 

 

Cam 1 Cysylltu ag Arweinydd Gweithredol yn eich dewis cyntaf o brifysgol er mwyn trafod eich darpar gais ac i bennu ac enwi goruchwylydd  Yn syth a chyn cyflwyno eich ffurflenni gwirio cymhwystra 

 

Cam 2 Ffurflenni gwirio cymhwystra i’w cwblhau a’u dychwelyd at: marina.mcdonald@southwales.ac.uk 23.59 AR 5 IONAWR 2024

 

Cam 3 Er mwyn cynorthwyo i fireinio eu syniadau, gwahoddir ymgeiswyr cymwys i gymryd rhan mewn gweminar gydag arbenigwyr mewn dylunio ymchwil, dulliau ansoddol a meintiol, cynnwys cleifion, moeseg, a pholisi iechyd a gwella gwasanaethau. Byddan nhw hefyd yn ystyried manteisio i’r eithaf ar effaith a rheoli eu prosiect Cynhelir y gweminar ar WYTHNOS YN CYCHWYN 8 IONAWR 2024

 

Cam 4 Yn dilyn y weminar gwahoddir ymgeiswyr cymwys i gyflwyno ffurflen gais gyda chynnig llawn   9 CHWEFROR 2024

   

Cam 5 Ar ôl llunio rhestr fer o geisiadau o’r cynigion llawn, dewisir drwy gyfweliad. Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn cychwyn WYTHNOS YN CYCHWYN 26 CHWEFROR 2024

 

Cam 6 Bydd y Cymrodoriaethau yn cychwyn 1 EBRILL 2024

 


Meini Prawf Cymhwystra 

  • Rhaid y ymgeiswyr fod yn gofrestredig fel Nyrs, Bydwraig, Fferyllydd neu Weithiwr Proffesiynol Iechyd Cysylltiol (h.y. rhaid eu bod wedi’u cofrestru gyda’r the NMC, HCPC neu GPC ar gychwyn eu hastudiaeth). Daw’r diffiniad o Broffesiynau Iechyd Cysylltiol o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd (gweler: https://www.hcpc-uk.org/about-us/who-we-regulate/the-professions/). Gallai gwyddonwyr biofeddygol a chlinigol fod wedi’u cofrestru gyda’r HCPC neu wedi’u cofrestru drwy drefniadau rheoleiddiol gwirfoddol cydnabyddedig drwy Academi Gwyddorau Gofal Iechyd. Sylwer nad oes gan RCBC Cymru y cyllid i ystyried gweithwyr proffesiynol tu allan i’r grwpiau gweithwyr proffesiynol gofal iechyd hyn 
  • Mae gofyn fel arfer i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf (neu gyfwerth) o Brifysgol neu Sefydliad a gydnabyddir gan y 6 Sefydliad Addysg Uwch sy’n rhan o RCBC Cymru.
  • Rhaid bod ymgeiswyr llwyddiannus breswylio yng Nghymru yn ystod cyfnod y dyfarniad.
  • Sylwer nad yw RCBCCymru yn gorff cyflogi a rhaid bod pob Cymrawd mewn cyflogaeth yng Nghymru er mwyn cael bod yn Gymrawd.
  • Mae croeso i ymgeiswyr blaenorol ail-gynnig

 

Ceisiadau

Cofiwch ganiatáu digon o amser i dderbyn datganiad gan eich darpar oruchwylydd (dewis cyntaf) a chadarnhad bod gennych gefnogaeth y sefydliad addysg uwch sy’n lletya (SAU) a’ch cyflogwr. Ystyriwch gynnwys eich dewisiadau eraill o sefydliadau yn eich cais. Gweler yr hysbyseb a Gwybodaeth Bellach i gael manylion cyswllt RCBCCymru ymhob un o’r y prifysgolion sy’n cymryd rhan: Prifysgolion Bangor, Caerdydd, Metropolitan Caerdydd, Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol De Cymru.   

  

Delir ag ymholiadau cyffredinol gan Marina McDonald, RCBCCymru, Prifysgol De Cymru. E-bost: marina.mcdonald@southwales.ac.uk 

 

Sylwer bod Cymrodoriaethau RCBCCymru yn cael eu cynnig ar sail y gallai’r ffioedd newid ac yn amodol ar y drefn gymorth berthnasol i fyfyrwyr yng Nghymru. 

RCBCCymru Rhestr Wirio Cymhwystra

Ffeil lawrlwytho: Ffurflen Gwirio
 Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
IONAWR 2024

Yn gyntaf i mewn i Hysbyseb Ymchwil - Fferyllfa wedi'i neilltuo cyllid

Lawrlwytho ffeil - Hysbyseb FiR - Fferylliaeth

 Rhagor o wybodaeth Newydd i Ymchwil

Ffeil Lawriwytho: Gwybodaeth bellach FiR

Ffurflen Gais Cynnig Llawn RCBCCYmru

Ffeil Lawriwytho: Ffurflen Gais Cynnig Llawn RCBCCYmru

DYDDIAD CAU: 9 CHWEFROR 2024

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Feel Lawrlwytho: Ffurflen Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Share by: